Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Gorffennaf 2012

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

1.    Ar 9 Gorffennaf 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 19 Mehefin 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 23 Tachwedd 2012.

4.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 1 Chwefror 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.